George Martin | |
---|---|
Ganwyd | George Henry Martin 3 Ionawr 1926 Highbury |
Bu farw | 8 Mawrth 2016 Coleshill |
Label recordio | EMI, Parlophone Records, Apple Records, Capitol Records, United Artists Records, Island Records, Manticore Records, Atlantic Records, Warner Music Group, Canadian-American Records |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | trefnydd cerdd, cyfansoddwr, arweinydd, peiriannydd sain, cerddor, cynhyrchydd recordiau |
Arddull | cerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth glasurol |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Marchog Faglor, Gwobr James Joyce, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, honorary doctor of the Berklee College of Music, Rock and Roll Hall of Fame |
Cynhyrchydd recordiau, trefnydd cerddoriaeth, cyfansoddwr, arweinydd, peiriannydd sain a cherddor o Loegr oedd Syr George Henry Martin CBE (3 Ionawr 1926 – 8 Mawrth 2016). Weithiau mae'n cael ei ddisgrifio fel y "pumed Beatle" gan gyfeirio at ei waith ar bob un o albymau gwreiddiol y Beatles.[1] Cyrhaeddodd 30 o senglau Martin rif un yn siartiau'r Deyrnas Unedig ac aeth 23 i rif un yn yr Unol Daleithiau.
Mynychodd Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall rhwng 1947 a 1950, lle'r astudiai'r piano a'r obo. Ar ôl graddio, gweithiodd i adran gerddoriaeth glasurol y BBC, cyn ymuno ag EMI yn 1950. Cynhyrchodd Martin recordiau comedi a nofelti yn y 1950au cynnar, yn gweithio gyda Peter Sellers a Spike Milligan, ymysg eraill.
Ymestynnai gyrfa Martin dros chwe degawd o waith mewn cerddoriaeth, ffilm, teledu a pherfformio byw. Bu hefyd mewn swyddi gweithredol uwch mewn cwmnïau cyfryngol a chyfranodd i ystod eang o achosion da, yn cynnwys ei waith i'r Prince's Trust a ynys Montserrat yn y Caribi.
I gydnabod ei wasanaeth i'r diwydiant cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd, fe'i gwnaed yn Farchog Gwyryf yn 1996.